Trwsio’r Cynulliad Cenedlaethol

Trwsio’r Cynulliad Cenedlaethol

Mae Maint yn Cyfrif

Gyda dim ond 60 o Aelodau Cynulliad, mae democratiaeth Gymreig o dan ormod o bwysau. Oherwydd penodiadau i’r Cabinet a phenodiadau swyddogol, does gan y Cynulliad Cenedlaethol prin 42 o aelodau meinciau cefn ar gael i graffu ar y Llywodraeth. Nid oes digon o ACau meinciau cefn i lenwi pob sedd pwyllgor ac i ddatblygu'r wybodaeth arbenigol sydd eu hangen arnynt i wneud y gwaith yn iawn. Mae arnom angen mwy o Aelodau Cynulliad fel y gall ein cynrychiolwyr ddal y Llywodraeth Cymru i gyfrif yn iawn.

Gyda thrafodaethau yn San Steffan i ostwng nifer yr ASau Cymreig, mae'n amser cael dadl aeddfed am gydbwysedd ble mae ein cynrychiolwyr wleidyddol yng Nghymru.

Mae ‘Mae Maint yn Cyfrif’, a ysgrifennwyd yn 2013 ar y cyd â phrosiect Undeb yn Newid (bartneriaeth sy'n cynnwys Canolfan Llywodraethiaent Cymru Priysgol Caerdydd a'r Sefydliad Materion Cymreig), yn profi'r achos dros gynyddu nifer yr ACau o 60 i 100. Darllenwch Mae Maint yn Cyfrif nawr.

Ail-lunio'r Senedd

Ers 2013, mae'r Cynulliad wedi ennill mwy o bwerau, gyda mwy fyth ar y gorwel, a Brexit yn golygu y gall nifer diri o gyfrifoldebau sylweddol symud o Frwsel i Fae Caerdydd.

Mae'r datblygiadau hyn yn cryfhau ymhellach ddadl graidd Mae Maint yn Cyfrif: wrth i fwy o bwerau ddod i Gymru, mae'n angenrheidiol i sicrhau bod digon o Aelodau'r Cynulliad i graffu ar Lywodraeth Cymru grymus.

Ond mae un cwestiwn na cafodd ei hystyried gan ein hadroddiad blaenorol  - sut y dyai Cynulliad mwy o faint gael ei hethol. Byddai cynyddu nifer yr ACau yn gorfodi rhywfaint o addasu ar y trefniadau etholiadol presennol - ond sut, ac ar ba sail, dylid gwneud hyn? Hwn yw testun ein hadroddiad newydd.

Rydym yn credu y mai'r Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy neu fersiwn penodol o Restr Agored orau byddai’n rhoi'r sail fwyaf cadarn ar gyfer system etholiadol sefydlog a pharhaol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn wir, credwn y gallai'r ddau system cael eu gweithredu ochr yn ochr, ac ar y cyd â’r, symudiad i 29 o etholaethau yng Nghymru.

I gael gwybod sut y daethom i'r casgliadau hyn darllenwch Ail-lunio’r Senedd