Cynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestrau Plaid

Mewn systemau Rhestrau Plaid, mae seddi yn y senedd yn cyfateb yn agos i faint o bleidleisiau y mae pob plaid yn eu derbyn, ond yn aml mae cyswllt etholaethol gwannach.

Rhestrau Plaid yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o ethol cynrychiolwyr yn y byd, gyda mwy nag 80 o wledydd yn defnyddio amrywiad o’r system hon i ethol eu senedd.

Sut i bleidleisio

Yn hytrach nag ethol un person ar gyfer pob ardal, mewn systemau Rhestrau Plaid mae pob ardal yn fwy ac yn ethol grŵp o ASau sy’n adlewyrchu’n agos y ffordd y pleidleisiodd trigolion yr ardal. Ar hyn o bryd mae gennym 650 o etholaethau, pob un yn ethol 1 Aelod Seneddol (AS); o dan system Rhestrau Plaid efallai y byddai gennym 26 o etholaethau, pob un yn ethol 25 AS.

Mae tair prif ffordd i bleidleisio mewn etholiadau Rhestrau Plaid a ddefnyddir ledled y byd.

 

Rhestr Gaeedig: Mae pob plaid yn cyhoeddi rhestr o ymgeiswyr ar gyfer pob ardal. Ar ddiwrnod yr etholiad, dim ond rhestr o bleidiau sydd ar y papur pleidleisio. Mae pleidleiswyr yn gosod croes wrth ymyl y blaid y maent yn ei chefnogi.

Yn y system hon, mae plaid yn ennill y nifer o seddi sy’n cyfateb yn fras i nifer y pleidleisiau a dderbyniwyd, ac mae seddi’n cael eu llenwi yn dibynnu ar drefn y rhestr y mae’r blaid wedi’i dewis ymlaen llaw.

Rhestr Agored: Ar y papur pleidleisio, mae gan bob plaid restr o ymgeiswyr.

Po fwyaf o bleidleisiau a gaiff ymgeisydd, y mwyaf tebygol y bydd o fod yng ngrŵp ASau y blaid sy’n cael eu hethol. Mae pleidlais dros ymgeisydd yn cael ei chyfrif fel pleidlais i’w blaid pan benderfynir faint o seddi y dylai pob plaid eu derbyn. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl i bleidlais ar gyfer ymgeisydd helpu ymgeisydd nad yw pleidleisiwr yn ei hoffi, os yw’r ymgeisydd hwnnw’n boblogaidd ymysg cefnogwyr gweddill ei blaid.

Mewn rhai gwledydd, gall pleidleisiwr bleidleisio dros blaid a gadael trefn yr ymgeiswyr i bleidleiswyr eraill.

 

Rhestr Lled-Agored: Mewn system rhestr lled-agored, mae pleidleiswyr yn cael papur balot gyda’r opsiwn i bleidleisio dros ymgeisydd neu blaid.

Yn wahanol i restr agored, mae pleidleisio dros blaid yn cael ei gymryd fel cadarnhad o drefn yr ymgeiswyr a ddewiswyd gan y blaid honno. Gyda digon o bleidleisiau unigol, gall ymgeiswyr symud i fyny’r drefn o hyd.

Cyfri’r pleidleisiau

Mae dau brif ddull o ddyrannu seddi mewn etholiadau rhestrau plaid. Y dull D’Hondt, sy’n ffafrio’r pleidiau mwy ychydig, a’r dull Sainte-Laguë sydd ddim yn gwneud hynny.

Nodweddion ac Effeithiau

Mae gwledydd sydd â chynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestrau plaid yn dueddol o fod â llawer o bleidiau, gan fod systemau sy’n seiliedig ar restr yn gymesur iawn. Mae hyn yn golygu bod clymblaid yn gyffredin iawn yn y gwledydd hynny. Gan ei bod yn haws cael mynediad, gall pleidiau newydd sefydlu eu hunain a bod yn llwyddiannus os nad yw’r pleidiau mwy yn deall materion cymdeithasol newydd. Mae llawer o wledydd yn defnyddio trothwyon cyfreithiol, fel arfer 4 neu 5%, i atal pleidiau â chefnogaeth isel iawn rhag ennill seddi.

Mae’n bosibl cael rhestrau plaid gydag etholaethau mawr iawn neu rai llai. Er enghraifft, yn yr Iseldiroedd ac Israel mae’r wlad gyfan yn un etholaeth fawr. Mewn gwledydd eraill defnyddir etholaethau llai. Er enghraifft, defnyddir taleithiau yn y Ffindir a Sbaen.

Mantais etholaethau llai yw bod ASau yn nes at faterion lleol, oherwydd bydd gan wahanol ardaloedd broblemau gwahanol. Ond mae etholaethau sydd â llai o ASau hefyd yn llai cymesur gan fod angen mwy o bleidleisiau ar AS i ennill sedd.

Mae rhestrau plaid, fel mae’r enw’n awgrymu, yn seiliedig ar y syniad o bleidiau gwleidyddol, felly mae’n rhaid i ymgeiswyr annibynnol greu ‘rhestr plaid’ o un. Os ydyn nhw’n ennill mwy o bleidleisiau nag sydd eu hangen i gael eu hethol, mae’r pleidleisiau hyn yn cael eu gwastraffu.