Yn achos democratiaeth ac etholiadau yng Nghymru, mae Biliau’n dod fel bysiau! Dim ond pythefnos ar ôl cyflwyno Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gosododd Llywodraeth Cymru ei Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) gerbron y Senedd ddydd Llun. Bydd y cynigion newydd hyn yn gwneud pleidleisio’n haws ac yn dileu rhwystrau y gwyddom fod llawer o bobl yn eu hwynebu, gan ddod â democratiaeth Cymru i’r 21ain ganrif.
Moderneiddio cofrestru
Mae’r Comisiwn Etholiadol yn amcangyfrif bod hyd at 400,000 o bobl heb gofrestru’n gywir yn eu cyfeiriad presennol yng Nghymru, a phan holwyd hwy, dywedodd y staff sydd yng ngofal pleidleisio mai pobl yn cyrraedd i bleidleisio heb fod wedi cofrestru yw’r broblem fwyaf y maent yn dod ar ei thraws mewn gorsafoedd pleidleisio o bell ffordd. Mae’r bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer treialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, i ddileu’r rhwystr diangen hwn rhwng darpar bleidleiswyr a’r blwch pleidleisio. Byddai’r symudiad hwn yn alinio Cymru â gwledydd democrataidd blaenllaw ledled y byd sy’n cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig fel mater o drefn.
Gwella gwybodaeth
Rhwystr arall yw mynediad at wybodaeth. Rydym yn croesawu darpariaethau yn y Bil i sefydlu llwyfan gwybodaeth newydd i bleidleiswyr – rhywbeth y mae Grŵp Democratiaeth Cymru wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd. Bydd y platfform yn cynnwys datganiadau gan ymgeiswyr, gwybodaeth am sut i bleidleisio ac esboniadau ynghylch pwerau, rolau a chyfrifoldebau’r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru. Byddai siop-un-stop lle bydd gwybodaeth am ddemocratiaeth yng Nghymru ar gael yn ei gwneud yn haws i bleidleiswyr gael gafael ar adnoddau sydd ar hyn o bryd mewn nifer o wahanol leoedd.
Senedd a llywodraeth leol sy’n adlewyrchu amrywioldeb Cymru
Roeddem hefyd yn falch o weld bod y Bil yn ymrwymo i gynyddu’r amrywioldeb ymhlith ymgeiswyr sy’n sefyll ar gyfer etholiadau Cymru, er mwyn sicrhau bod ein cyrff etholedig yn adlewyrchu amrywioldeb Cymru. Mae hyn yn cynnwys lleihau’r rhwystrau a wynebir gan ymgeiswyr ag anableddau drwy barhad y rhaglen ar gyfer cymorth ariannol o’r gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig. Mae yna hefyd ymrwymiad i fynd i’r afael â’r rhwystrau a wynebir gan bobl â nodweddion gwarchodedig eraill drwy naill ai wasanaethau neu gymorth ariannol, gan sicrhau ymagwedd hyblyg sy’n canolbwyntio ar oresgyn rhwystrau penodol yn hytrach na chynnig yr un datrysiad eang i bawb.
Mae etholiadau yn newid yng Nghymru
Bydd yr etholiadau yn 2026 ar gyfer y Senedd, ynghyd ag etholiadau lleol yn 2027, yn edrych yn wahanol iawn i flynyddoedd blaenorol. Mae’r moderneiddio hwn i’w groesawu’n fawr, ond dylai’r modd y mae’r llywodraeth yn cyfathrebu’r newidiadau i bleidleiswyr fod yn ganolog i’r cynlluniau hyn. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n ymgysylltu â ni i gyd o ran y ffordd newydd hon o weithio dros ddemocratiaeth Cymru.
Wrth i Gymru fwrw ymlaen â lleihau’r rhwystrau i bleidleisio, dylai San Steffan ddilyn yr esiampl honno a mabwysiadu’r syniadau hyn ledled y DU.