Mae Cymru ar groesffordd bwysig yn ei thaith ddemocrataidd. Mae ERS Cymru wedi datblygu cynnig i newid y ffordd rydym yn ethol aelodau’r Senedd, gan ddisodli’r system rhestr gaeedig arfaethedig â’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV). Nid addasiad technegol yn unig mo’r cynnig hwn, ond sgwrs sylfaenol am y math o ddemocratiaeth yr ydym ei heisiau i Gymru.
O dan STV, gall pobl ddewis rhwng ymgeiswyr unigol yn ogystal â phleidiau, gan sicrhau bod cynrychiolwyr etholedig yn atebol yn uniongyrchol i’r pleidleiswyr sy’n eu hethol. Gan weithio gydag Alun Davies ASC ac aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill mae ERS wedi datblygu bil i wireddu’r weledigaeth hon.
Pam Mae Hyn yn Bwysig i Bleidleiswyr
Cynhelir etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf o dan system nad oedd neb ei heisiau – y system rhestr gaeedig. Bydd rhestrau caeedig yn darparu canlyniad cyfrannol, ond ni fyddant yn darparu atebolrwydd, gyda phleidleiswyr ond yn gallu cefnogi pleidiau gwleidyddol yn hytrach na’r ymgeiswyr unigol ar y papur pleidleisio a fydd mewn gwirionedd yn eu cynrychioli yn y Senedd.
Argymhellodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadau’r Senedd a’r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadau’r Cynulliad y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) yn lle’r system rhestr gaeedig, a fyddai’n cyflawni cymesuredd, gan sicrhau bod y Senedd yn adlewyrchu sut y pleidleisiodd pobl Cymru, yn ogystal ag atebolrwydd uniongyrchol ASCau i’r pleidleiswyr.
Mae rhoi dewis i bleidleiswyr yn fwy na dim ond manylyn technegol; dyma sylfaen ymddiriedaeth yn ein sefydliadau. Pan all pobl adnabod yr unigolion y maent wedi helpu i’w hethol, mae’n cryfhau cyfreithlondeb ac ymgysylltiad. Mae rhestrau caeedig, i’r gwrthwyneb, mewn perygl o greu ymdeimlad o bellter rhwng pleidleiswyr a’r rhai sy’n eu gwasanaethu.
Cryfhau Atebolrwydd a Chynrychiolaeth
Byddai cyflwyno STV yn gam cadarnhaol tuag at Senedd fwy agored a chynrychioliadol. Byddai’n caniatáu i bobl fynegi dewisiadau manwl a sicrhau nad oes unrhyw bleidlais yn cael ei gwastraffu. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y byddai’r Senedd yn adlewyrchu amrywioldeb safbwyntiau ledled Cymru yn well.
Mae’r diwygiad hwn hefyd yn bwysig o ran atebolrwydd. O dan STV, byddai angen i aelodau unigol y Senedd gynnal perthnasoedd uniongyrchol â’u cymunedau, gan ennill a chadw ymddiriedaeth y rhai sy’n eu hethol. Mae’r cyswllt personol hwnnw’n hanfodol os ydym am adeiladu deddfwrfa sy’n teimlo’n gysylltiedig, yn ymatebol ac yn gyfreithlon.
Adeiladu Gwell Democratiaeth i Gymru
Ar ôl etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2026, bydd cyfle gan Aelodau’r Senedd i adolygu’r system rhestr gaeedig.
Mae gan Gymru’r cyfle unwaith eto i ddangos arweinyddiaeth mewn arloesedd democrataidd. Rydym wedi gwneud hyn o’r blaen. O ddatganoli i gydbwysedd rhywedd mewn cynrychiolaeth, mae Cymru wedi dangos y gall diwygio wneud i wleidyddiaeth weithio’n well i bobl.
Byddai symud i STV yn parhau â’r traddodiad hwnnw. Byddai’n creu system fwy agored ac atebol, gan adlewyrchu ewyllys y pleidleiswyr. Byddai’n golygu bod pob pleidlais yn cyfrif a bod pob pleidleisiwr yn gallu gweld eu dylanwad wrth lunio’r Senedd.
Fe wnaethon ni rybuddio o’r cychwyn cyntaf fod rhestrau caeedig mewn perygl o fod yn gyfaddawd lle byddai pawb ar eu colled, a bod angen system bleidleisio arnom sy’n gweithio i bobl Cymru. Mae’r Bil drafft hwn yn dangos pa mor hawdd fyddai’r newid o’r system rhestr gaeedig i STV, pe bai’r amgylchiadau ar ôl etholiad mis Mai yn golygu y byddai newid yn bosibl. I’ch atgoffa, mae angen i fwyafrif o 2/3 o Aelodau’r Senedd bleidleisio o blaid unrhyw newid cyfansoddiadol yng Nghymru, felly byddai angen i’r newid hwn fod yn newid sy’n cael cefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol.
Er mwyn i ddemocratiaeth ffynnu, rhaid i bobl deimlo bod eu llais yn bwysig. Mae diwygio’r system bleidleisio yn un o’r ffyrdd mwyaf pwerus o wneud i hynny ddigwydd. Mae’r drafodaeth sydd ar ddechrau yng Nghymru nawr yn gyfle i gryfhau ein sefydliadau, adnewyddu ymddiriedaeth y cyhoedd a sicrhau bod ein democratiaeth yn parhau i dyfu gyda’r bobl y mae’n eu gwasanaethu.
Cefnogwch ERS Cymru
Mae Aelodau ERS yn cefnogi ein gwaith yn y Senedd, yn y wasg ac ar-lein – gan gyflwyno’r achos, a’i gefnogi – dros sut y gallwn drwsio system fethedig y DU.