Hefyd ar gael yn: English

Canllawiau amrywioldeb a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig – Ymateb ERS Cymru

Wedi'i bostio ar y 26th Chwefror 2025

Rhan 1: Canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol ar ddatblygu, cyhoeddi, gweithredu ac adolygu strategaethau amrywioldeb a chynhwysiant yn rheolaidd ar gyfer etholiadau lleol a chenedlaethol yng Nghymru

Cwestiwn 1: Rhaid i Lywodraeth Cymru fanylu ar y nodweddion a’r amgylchiadau at ddiben Rhannau 1 a 2 o’r canllawiau. Beth yw eich barn ar y nodweddion a’r amgylchiadau penodol? Er hwylustod, fe’u rhestrir yma:

  • Oedran*
  • Anabledd*
  • Hil*
  • Crefydd neu ffydd*
  • Rhywedd*
  • Tueddfryd rhywiol*
  • Statws neu hanes traws (gan gynnwys ailbennu rhywedd*)
  • Cefndir economaidd-gymdeithasol
  • Cyflyrau iechyd
  • Profiad gwleidyddol blaenorol
  • Cyfrifoldebau gofalu
  • Cyfrifoldeb rhiant
  • Iaith

* Nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Yn gyffredinol, rydym yn gefnogol i’r nodweddion ac amgylchiadau a restrir at ddiben Rhannau 1 a 2 o’r canllawiau. Ymddengys fod hyn yn gyson â’r Arolwg o Ymgeiswyr Llywodraeth Leol, ond credwn y dylai fod yna gydbwysedd rhwng casglu’r wybodaeth sydd ei hangen a sicrhau nad yw’r arolwg yn rhy hirfaith, er mwyn cynyddu nifer yr ymatebion a pha mor ddefnyddiol ydynt.

Mae ymchwil i effaith hyd arolwg ar gyfraddau ymateb yn dangos bod mwy o bobl yn fodlon mynd ati i gwblhau arolygon byrrach. Mae nifer o aelodau staff ERS Cymru wedi rhoi cynnig ar y templed ar gyfer yr arolwg arfaethedig ac wedi canfod ei bod yn cymryd llai na phum munud i’w gwblhau ar gyfartaledd, a dychmygwn y byddai hynny’n amrywio yn dibynnu ar natur ymateb unigolyn (h.y. os oes gennych fwy o nodweddion gwarchodedig i’w datgan).

Cwestiwn 2: A fyddech cystal â nodi i ba raddau yr ydych yn cytuno â’r camau a awgrymir i bleidiau gwleidyddol eu cymryd i gynyddu amrywioldeb a chynhwysiant yn etholiadau Cymru?

Cytuno’n gryf

2a: A fyddech cystal ag esbonio eich rhesymau dros y graddau yr ydych yn cytuno â’r camau a awgrymir i bleidiau gwleidyddol eu cymryd i gynyddu amrywioldeb a chynhwysiant yn etholiadau Cymru?

Roeddem yn gefnogol i’r cwotâu rhywedd statudol a amlinellwyd ym Mil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) ac yn siomedig bod y Bil wedi’i dynnu’n ôl. Felly, er nad yw’r mesurau hyn yn statudol rydym yn eu croesawu. Heb unrhyw gwotâu ffurfiol yn cael eu cyflwyno, mae’r camau y bydd y pleidiau’n eu cymryd i wella amrywioldeb a chynhwysiant a’r data sy’n ymwneud â hyn yn bwysicach fyth.

Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn bryderus ynghylch natur wirfoddol y mesurau hyn. Dim ond os bydd pob plaid a gaiff ei hethol i’r Senedd yn 2026 yn eu mabwysiadu y byddant yn effeithiol. Byddwn yn gweithio gyda’r pleidiau i’w cefnogi yn hyn o beth, ochr-yn-ochr â Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru, Cyngor Hil Cymru a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) Cymru fel rhan o’r ymgyrch Amrywioldeb 50:50.

Ac eto, mae’n bwysig ystyried sut y gellir cynnig cymorth ehangach i bleidiau gwleidyddol i’w helpu i fabwysiadu’r mesurau hyn. Gyda phob plaid mewn egwyddor yn cymryd yr un mesurau neu fesurau tebyg, waeth beth fo’u maint, gallai fod yna gronfa ganolog ar gyfer gwybodaeth neu gefnogaeth, o bosibl trwy Fwrdd Rheoli Etholiadol newydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Cwestiwn 3: A oes unrhyw bethau eraill y mae angen i bleidiau gwleidyddol eu hystyried wrth ddatblygu, cyhoeddi, gweithredu ac adolygu strategaethau amrywioldeb a chynhwysiant ar gyfer etholiadau Cymru? Os felly, beth ydyn nhw?

Rhaid i bleidiau ystyried yn briodol y materion hynny sy’n ymwneud â diogelu data a’i gadw’n ddienw. Rhaid i bleidiau sicrhau bod data’n cael ei ddadgyfuno fel nad yw’n hawdd adnabod ymatebion cyflawn gan unigolion. Dylent hefyd sicrhau bod ganddynt y strwythurau i gadw’r data hwn yn ddiogel.

Rydym yn hapus bod y canllawiau hyn yn gynhwysfawr ac yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng bod yn effeithiol, os cânt eu defnyddio’n iawn, ac na fyddant, gobeithio, yn gosod gormod o faich ar bleidiau. Fodd bynnag, dylai adborth gan bleidiau fod yn rhan allweddol o ystyried hyn.

Rhan 2: Canllawiau i bleidiau gwleidyddol sy’n cynnig ymgeiswyr yn etholiadau Senedd Cymru ar gasglu, coladu a chyhoeddi gwybodaeth ynghylch amrywioldeb sy’n perthyn i ymgeiswyr ac Aelodau etholedig

Cwestiwn 4: Beth yw eich barn ar gwestiynau’r arolwg o ymgeiswyr yn Rhan 2?

Ar y cyfan, rydym yn gefnogol i’r arolwg o ymgeiswyr a amlinellir yn y templed ac yn y canllawiau drafft.

Fel yr amlinellwyd yn ein hymateb i gwestiwn 1, rydym yn hyderus bod hyn yn gyson â’r Arolwg o Ymgeiswyr Llywodraeth Leol, ond rydym yn ymwybodol y dylid cydbwyso hyn â rhywbeth y bydd pobl yn dymuno’i gwblhau mewn gwirionedd. Mae cyfraddau ymateb ar gyfer yr Arolwg o Ymgeiswyr Llywodraeth Leol wedi bod yn isel yn hanesyddol (12% yn 2022) ac mae’n werth ystyried pam. Dylid cymhwyso unrhyw wersi a ddysgwyd yn sgil y nifer isel sy’n ymwneud â’r Arolwg o Ymgeiswyr Llywodraeth Leol i’r arolwg hwn o ymgeiswyr ar gyfer y Senedd hefyd.

Dylid annog pleidiau i ddefnyddio’r templed hwn i sicrhau cysondeb a phan gaiff ei gyhoeddi, bod perfformiad pleidiau o amgylch amrywioldeb a chynhwysiant, o ran dewis eu hymgeiswyr, yn hygyrch a’i bod yn hawdd eu cymharu.

Cwestiwn 5: Ydych chi’n credu y bydd y canllawiau yn helpu pleidiau gwleidyddol i gasglu, coladu a chyhoeddi gwybodaeth ynghylch amrywioldeb yr ymgeiswyr ar gyfer y Senedd?

Byddant – yn dibynnu ar y nifer sy’n cymryd rhan yn yr arolwg

5a: A fyddech cystal ag esbonio pam eich bod yn credu y bydd / na fydd y canllawiau hyn yn helpu pleidiau gwleidyddol i gasglu, coladu a chyhoeddi gwybodaeth ynghylch amrywioldeb yr ymgeiswyr ar gyfer y Senedd?

Mae’r diffyg data swyddogol ar amrywioldeb ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig yn fater o bwys sydd heb gael sylw eto. Nid yw’r data presennol ynghylch amrywioldeb ymgeiswyr ac Aelodau’r Senedd yn seiliedig ar ffigurau swyddogol, a gallai hyn fynd rywfaint o’r ffordd i fynd i’r afael â hynny.

Mae’r wybodaeth gyfyngedig sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch amrywioldeb y Senedd wedi’i gyfyngu i raddau helaeth i’r rhai a etholwyd yn Aelodau Senedd Cymru, ac nid yr ymgeiswyr a safodd (ac eithrio cynrychiolaeth rhywedd lle mae rhywfaint o ddata ymgeiswyr ar gael). Bydd y canllawiau hyn ar gasglu, coladu a chyhoeddi gwybodaeth ynghylch amrywioldeb yr ymgeiswyr ar gyfer y Senedd yn helpu i ddarparu dolen goll bwysig yn y gadwyn wybodaeth. Er mwyn deall ble mae’r rhwystrau i gymryd rhan mewn etholiad, mae angen gwybodaeth ynghylch amrywioldeb y rhai sy’n sefyll fel ymgeiswyr yn ogystal â’r rhai sy’n cael eu hethol wedyn.

Mae hyn yn galluogi pleidiau a rhanddeiliaid etholiadol i ddynodi rhwystrau ar gamau penodol o’r broses, h.y. a oes rhwystrau o ran dewis ymgeiswyr neu leoli ymgeiswyr ar restrau.

Mae hefyd yn caniatáu ar gyfer mesur effeithiolrwydd strategaeth plaid o ran amrywioldeb a chynhwysiant. Er enghraifft, effeithiolrwydd ymagweddau at gwotâu rhywedd gwirfoddol.

Dyma’r tro cyntaf i ganllawiau gael eu datblygu’n ganolog i helpu pleidiau i gasglu, coladu a chyhoeddi gwybodaeth ynghylch amrywioldeb yr ymgeiswyr ar gyfer y Senedd. Y gwir amdani yw nad oes ots pa mor gryf yw’r canllawiau; oherwydd eu natur wirfoddol, y nifer sy’n fodlon cydymffurfio â nhw fydd yn gwneud y cynllun yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus. Bydd y cyfrifoldeb ar bleidiau gwleidyddol i weithredu’r mesurau hyn a sicrhau eu bod yn casglu ac yn cyhoeddi’r data hwn.

O ran yr amserlen ar gyfer adrodd yn ôl ar wybodaeth ynghylch amrywioldeb a gasglwyd, rydym yn cytuno â’r cyfnod arfaethedig o chwe wythnos.

Os bydd pleidiau’n mabwysiadu’r canllawiau, mae’n werth ystyried sut mae’r canllawiau’n esblygu dros amser ar ôl i’r pleidiau eu defnyddio a chyflwyno adborth. Dylai hon fod yn broses gymharol ailadroddus.

Yn y tymor hwy, dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â Llywodraeth y DU i weld a ellid datganoli pwerau pellach er mwyn caniatáu i fesurau statudol ynghylch cydraddoldeb mewn perthynas ag etholiadau gael eu rhoi ar waith.

Rhan 3: Canllawiau i bleidiau gwleidyddol sy’n cynnig ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ar gwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod

6a: Eglurwch pam eich bod yn credu y bydd/na fydd y canllawiau hyn yn annog pleidiau gwleidyddol i gymryd camau priodol i sicrhau gwell cynrychiolaeth rhwng y rhyweddau yn y Senedd.

Rydym yn croesawu cynnwys cwotâu gwirfoddol yn y canllawiau, yn lle’r cwotâu statudol a amlinellwyd ym Mil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) sydd bellach wedi’i dynnu’n ôl. Er ein bod yn siomedig o hyd bod y Bil hwn wedi’i dynnu’n ôl, os yw pleidiau’n cymryd cwotâu gwirfoddol o ddifri gallent gael effaith sylweddol. Mae mesurau gwirfoddol yng Nghymru wedi cael effaith ar gynrychiolaeth gyfartal o ran rhywedd yn y gorffennol. Yn hanesyddol, mae’r lefelau cymharol uchel o ran cynrychiolaeth menywod yn y Senedd wedi bod yn dibynnu ar fesurau gwirfoddol. Mae’r rhain yn cynnwys pleidiau gwleidyddol yn cymryd camau cadarnhaol ynghylch dewis eu hymgeiswyr a lleoli’r ymgeiswyr hyn mewn etholaethau y gellir eu hennill neu’n uchel ar restrau, er enghraifft trwy ddefnyddio rhestrau byr sy’n cynnwys dim ond menywod, neu osod dynion a menywod am yn ail ar restrau rhanbarthol.

Gellir gweld effaith mesurau gwirfoddol yn effeithio ar gynrychiolaeth y rhyweddau yn etholiadau’r Senedd yn 2021 lle roedd 31% o’r ymgeiswyr yn fenywod ond roedd 43% o’r rhai a etholwyd yn Aelodau Senedd Cymru’n fenywod. Roedd y cynnydd hwn o ran cynrychiolaeth menywod a etholwyd o’i gymharu â’r garfan o ymgeiswyr yn rhannol oherwydd gweithredu cadarnhaol gan bleidiau penodol, yn bennaf Llafur Cymru, gyda 30 Aelod o’r Senedd, 17 (56.7%) ohonynt yn fenywod.

Er bod hwn yn ganlyniad cadarnhaol i gynrychiolaeth menywod yn y 6ed Senedd, mae’n dibynnu’n drwm ar bleidiau penodol yn ennill seddi. Ni ellir byth warantu lefelau parhaus o gynrychiolaeth gan unrhyw blaid mewn etholiadau yn y dyfodol, a gyda’r system etholiadol newydd yn dod i rym ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026, mae’r canlyniadau hyd yn oed yn fwy tebygol o fod yn wahanol, gan amlygu pa mor bwysig yw hi fod pob plaid yn ymrwymo i gwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod cyn 2026.

Bydd y system etholiadol Rhestr Gaeedig newydd yn caniatáu i gwotâu gael eu gweithredu’n hawdd, ond bydd yn rhaid i bleidiau feddwl yn ofalus wrth leoli ymgeiswyr sy’n fenywod er mwyn sicrhau nad yw cynrychiolaeth menywod yn y Senedd yn cwympo’n ôl.

Mae’r tri dimensiwn o gwotâu a amlinellir yn y canllawiau (trothwy cynrychiolaeth, meini prawf fertigol a meini prawf llorweddol) yn hanfodol, a dylai pleidiau ddefnyddio cyfuniad ohonynt i sicrhau bod cwotâu gwirfoddol mor effeithiol â phosibl. Dylai pleidiau hefyd ystyried patrymau pleidleisio a pherfformiad yn y gorffennol (er ei bod yn anodd yn yr etholiadau cyntaf â Rhestr Gaeedig yn 2026) i ystyried hefyd ble y gallai seddi y gellir eu hennill fod.

Yn ystod y gwaith o amgylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), lluniodd ERS Cymru rywfaint o fodelu o’r effeithiau y gallai cwotâu eu cael pe byddent yn cael eu gweithredu.

Mae’r modelau hyn yn dangos bod cwotâu, er eu bod yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar gynrychiolaeth menywod yn y Senedd, yn ei gwneud yn ofynnol o hyd i bleidiau chwarae rhan weithredol wrth ystyried ble i osod menywod ar frig rhestrau etholiadol.

Gellir gweld hyn yn fanylach yn ein tystiolaeth ysgrifenedig i’r Bil a dylai pleidiau gwleidyddol ystyried hyn wrth ddewis ymgeiswyr.

Y ffactor mwyaf arwyddocaol yn llwyddiant y cwotâu gwirfoddol fydd i ba raddau mae’r pleidiau gwleidyddol yn ymwneud â hwy. Oni bai bod pob plaid a gynrychiolir yn y Senedd ar ôl 2026 yn defnyddio cwotâu gwirfoddol, bydd llwyddiant y cynllun yn gyfyngedig.   

Cwestiwn 7: A oes unrhyw fesurau eraill y credwch y gallai pleidiau gwleidyddol eu cymryd i sicrhau Senedd gytbwys o ran rhywedd? Os felly, beth ydyn nhw?

O ran beth arall y gallai’r pleidiau gwleidyddol ei wneud i helpu â sicrhau Senedd gytbwys rhwng y rhyweddau, credwn fod amseru’n allweddol. Un mater sy’n debygol o godi yw bod pleidiau eisoes yn lleoli ymgeiswyr ar gyfer 2026, hyd yn oed cyn i’r ffiniau terfynol gael eu cyhoeddi. Gallai hynny roi’r canllawiau hyn mewn perygl o gael eu cyhoeddi’n rhu hwyr i wneud unrhyw wahaniaeth. Dylai pleidiau fod yn chwarae rhan weithredol yn natblygiad y canllawiau hyn a chael trafodaethau o fewn eu harweinyddiaeth nawr cyn mynd ati i ddewis ymgeiswyr.

Ar yr un pryd, dylai Llywodraeth Cymru fod yn chwarae eu rhan i sicrhau sgyrsiau amserol â phleidiau ynghylch y canllawiau hyn a’u bod yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl.  

Sylwadau terfynol

Cwestiwn 10: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau mewn perthynas â’r gwahanol rannau o’r canllawiau. A oes gennych unrhyw syniadau eraill yr hoffech eu rhannu gyda ni ar y canllawiau?

Croesawn yn fawr gyhoeddi’r canllawiau drafft hyn ar amrywioldeb a chynhwysiant. Mae’n hanfodol bod y Senedd yn cynrychioli ac yn adlewyrchu’r bobl y mae’n eu gwasanaethu. Mae gan y Senedd swyddogaeth bwysig o ran craffu ac mae Senedd fwy amrywiol yn sicrhau bod ystod ehangach o brofiadau byw yn cael eu hystyried o ddydd i ddydd.

Er mwyn i’r canllawiau hyn fod yn effeithiol, dylai’r pleidiau gwleidyddol ymgysylltu ac ymrwymo i roi’r prosesau hyn ar waith.

Read more briefings...