C1 – A yw’r gweithdrefnau a amlinellir yn y Gorchymyn drafft yn cynrychioli’n gywir y gofynion ar gyfer cynnal etholiad llwyddiannus o dan system etholiadol newydd y Senedd?
Nac ydyn
Er ei bod yn ymddangos bod y gweithdrefnau a amlinellir yn y Gorchymyn drafft yn cynrychioli’n gywir y gofynion technegol sy’n ofynnol ar gyfer cynnal etholiad o dan system etholiadol newydd y Senedd, mae gennym amheuon sylweddol sy’n effeithio ar ein hasesiad ynghylch a fydd hyn yn arwain at etholiad gwirioneddol lwyddiannus.
Mae ein prif bryder yn ymwneud â’r system bleidleisio newydd, sy’n mynd i fod yn tynnu dewis oddi wrth bleidleiswyr a’i roi yn nwylo pleidiau gwleidyddol. Gallai’r newid hwn danseilio ymgysylltiad a hyder pleidleiswyr yn anfwriadol, gan ei fod yn cyfyngu ar allu unigolion i fynegi eu cefnogaeth i ymgeiswyr penodol dros restrau plaid.
Yn ogystal â hyn, mae ehangder y newidiadau a fydd yn digwydd ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026 yn golygu bod angen ymgyrch gyfathrebu gadarn a chynhwysfawr i sicrhau bod pleidleiswyr yn deall y system bleidleisio newydd a’i goblygiadau yn llawn. Heb ymdrech o’r fath, mae perygl gwirioneddol y gallai dryswch a gwybodaeth gamarweiniol erydu ffydd y cyhoedd yn y broses etholiadol ac yn y Senedd ei hun. Felly, er bod y gorchymyn drafft yn nodi gweithdrefnau sy’n bodloni’r gofynion ffurfiol ar gyfer gweinyddu etholiadol, bydd pa mor llwyddiannus fydd yr etholiad yn dibynnu ar fynd i’r afael â’r materion hyn.
C2(b) – A ydych yn cytuno â’r egwyddor o alinio uchafswm gwariant etholiad ymgeiswyr unigol â’r uchafswm ar gyfer gwariant plaid?
Ni ellir ateb y cwestiwn hwn yn iawn heb fod system ar gyfer ariannu pleidiau wedi’i chwblhau. Wedi dweud hynny, er ein bod yn deall y rhesymeg y tu ôl i alinio’r uchafswm gwariant ar gyfer ymgeiswyr a phleidiau, mae gennym bryderon ynghylch tegwch.
Yn dibynnu ar y system a ddewisir, gallai’r aliniad hwn osod ymgeiswyr annibynnol dan anfantais, gan nad oes ganddynt yr adnoddau canolog sydd gan bleidiau gwleidyddol. Gallai ymgeiswyr annibynnol gael eu heffeithio’n arbennig os yw’r system a ddewisir yn cyfyngu ar gyllido ar sail nifer yr ymgeiswyr y mae plaid yn eu gosod ar eu rhestr mewn etholaeth, yn hytrach na nifer yr etholaethau y maent yn sefyll ynddynt. O’r herwydd, gallai system o’r fath gymell pleidiau gwleidyddol mwy i lenwi eu rhestrau er mwyn cynyddu eu terfyn gwariant, rhywbeth na fyddai ar gael i ymgeiswyr unigol.
C5 – A yw’r darpariaethau sy’n ymwneud â’r gofynion newydd ar gyfer datganiad o aelodaeth plaid yn glir o ran yr hyn sy’n ofynnol gan ymgeiswyr?
Ydyn
Mae’n amlwg o’r gorchymyn y bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddatgan a ydynt wedi bod yn aelod o blaid wleidyddol yn y 12 mis blaenorol, ac mae hyn yn glir ar y ffurflen berthnasol. Rydym yn cefnogi’r gofyniad gan y bydd yn gwella tryloywder i bleidleiswyr. Mae’r system hon eisoes ar waith ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru, a chredwn y byddai ei chyflwyno ar gyfer y Senedd wneud y broses yn haws ei deall i ymgeiswyr ac yn hylaw i swyddogion etholiad.
C6 – A ydych yn cytuno â’r darpariaethau newydd yn Rheol 37 o Atodlen 5 ynghylch yr offer a ddarperir mewn gorsafoedd pleidleisio i gynorthwyo pleidleiswyr anabl, sy’n unol â’r dull a fabwysiadwyd yn dilyn diwygiadau a wnaed gan Ddeddf Etholiadau 2022?
Rydym yn croesawu’r darpariaethau newydd sy’n ceisio cynorthwyo pobl anabl i bleidleisio’n annibynnol mewn gorsafoedd pleidleisio. Fodd bynnag, credwn fod lle i fynd ymhellach yn hyn o beth. Mae ymgyrchwyr anabledd a rhanddeiliaid eraill wedi tynnu sylw yn y gorffennol at natur ad hoc offer hygyrchedd mewn gorsafoedd pleidleisio, lle mae rhai gorsafoedd yn cynnig offer gwell nag eraill.
Dylai pobl ag anableddau allu pleidleisio’n annibynnol cymaint â phosibl. Fodd bynnag, os nad oes offer digonol ar gael ym mhob gorsaf bleidleisio, ni fydd hyn yn bosibl. Mae RNIB wedi cynnal ymchwil i allu pobl ddall i bleidleisio’n annibynnol, a chanfod bod llai nag un o bob pump o bleidleiswyr dall yn gallu gwneud hynny. Fodd bynnag, dangosodd treialon, pan gyflwynwyd cyfarpar cyffyrddol a sain, bod 93% o bleidleiswyr dall yn gallu pleidleisio’n annibynnol. Rydym yn croesawu’r cynlluniau peilot sydd ar waith ar hyn o bryd yn y maes hwn, a hoffem weld canlyniadau’r rhain, ynghyd â mewnbwn gan randdeiliaid allweddol eraill, yn cael eu bwydo i is-ddeddfwriaeth.
C7 – A ydych yn ystyried bod cynnwys a fformat y ffurflenni, yn ogystal â’r system rifo newydd, yn bodloni anghenion defnyddwyr?
Nac ydyn
Mae’r ffurflenni a’r system rifo yn rhesymegol, ac mae’n ymddangos eu bod yn bodloni anghenion defnyddwyr. Fodd bynnag, ymddengys bod rhai elfennau gweledol fel pe baent ar goll o rai o’r ffurfiau. Yn fwyaf nodedig mae ffurflen 22 yn y gorchymyn yn brin o’r elfennau gweledol a oedd yn bresennol yn hen orchymyn diwygiedig y Senedd o 2016 (Yn ymwneud â Rheol 37(14) o Atodlen 5).
Yn ogystal â’r gwahaniaeth hwn, mae’r darn cyntaf o gyngor (yn ymwneud â mynd at y ddesg wrth fynd i mewn i’r orsaf bleidleisio) wedi’i hepgor o’r ffurflen newydd. Teimlwn fod yr awgrymiadau gweledol hyn yn ddefnyddiol yn ychwanegol i’r testun ysgrifenedig. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried ehangu’r hawl i bleidleisio i bobl ifanc nad ydynt erioed wedi bwrw pleidlais o’r blaen, ac a allai fod yn nerfus ynghylch gwybod beth i’w wneud.
Nodwedd arall yr ymddengys ei bod wedi’i hepgor o’r ffurflenni newydd yw’r defnydd o flychau gwybodaeth mewn print trwm sy’n cyfeirio pleidleiswyr at gymorth ychwanegol. Mae hyn i’w weld yn achos pleidleisio trwy’r post a chardiau pleidleisio megis ffurflen CC2 yng ngorchymyn diwygiedig 2016.
Er bod y ffurflenni’n cynnwys testun ynghylch cael cymorth, bydd cyflwyno’r wybodaeth hon mewn print trwm a chlir yn ei gwneud hi’n haws i bleidleiswyr ddod o hyd i’r wybodaeth honno.
Ynghyd â’r pwyntiau hyn, o ystyried y newidiadau sy’n digwydd ar gyfer etholiad 2026, bydd angen cynnal ymgyrch gyfathrebu gref ynghyd â’r ffurflenni newydd. Bydd hyn yn hanfodol fel bod yr etholwyr yn gallu deall y system newydd ac wedyn eu papur pleidleisio.
C10 – Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw’n benodol, gallwch ddefnyddio’r gofod hwn i’w hamlinellu:
O ystyried y newidiadau enfawr sydd wedi digwydd o ran deddfwriaeth etholiadol yng Nghymru ers 2017, rydym yn croesawu’r symudiad i gydgrynhoi’r holl reolau sy’n llywodraethu etholiadau’r Senedd yn y gorchymyn hwn. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod rheolau etholiadol yn fwy tryloyw ac yn haws eu dilyn i’r rhai sy’n eu defnyddio.
Fodd bynnag, oherwydd maint y newidiadau a amlinellir yn y gorchymyn, mae’n hanfodol eu bod yn cael eu cyflwyno â strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr a chlir ymhell cyn etholiad 2026. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod ymgeiswyr ac, yn bwysicach fyth, yr etholwyr yn deall y broses newydd ar gyfer ethol Aelodau’r Senedd yn llawn. Yn ogystal, dylai unrhyw newidiadau a wneir i’r gorchymyn ar ôl yr ymgynghoriad gael eu cyhoeddi mewn modd amserol, gan ganiatáu digon o amser i lunio canllawiau priodol cyn etholiadau 2026, sydd i’w cynnal ymhen 15 mis.