Ymwybyddiaeth
Mae’r Pwyllgor yn ystyried bod sicrhau argaeledd y wybodaeth gywir yn rhan allweddol o dryloywder ac ymddiriedaeth. Byddem yn awyddus i wybod:
- A fyddech chi’n gwybod sut i gael mynediad at y wybodaeth am ba roddion y mae gwleidyddion wedi’u derbyn? Os felly, pa ffynonellau ydych chi’n eu defnyddio?
- A ydych chi’n credu bod y wybodaeth honno’n ddigonol am roddion a pha wybodaeth y byddech chi’n disgwyl iddi fod ar gael am roddion?
Mae tryloywder yn egwyddor sylfaenol o reoleiddio cyllid gwleidyddol. Gall mesurau tryloywder priodol sicrhau bod pleidleiswyr yn ymwybodol o bwy sy’n ariannu ymgyrchoedd a bod gan reoleiddwyr yr offer i sicrhau bod rheolau cyllid gwleidyddol yn cael eu dilyn. Mae tryloywder hefyd yn hanfodol i atal llygredd.
Ystyrir bod cronfa ddata cyllid gwleidyddol Comisiwn Etholiadol y DU ymysg y goreuon yn y byd o ran hygyrchedd ac ehangder y wybodaeth sydd ar gael.[1] Mae pleidiau ac ymgeiswyr yn gallu dod o hyd i wybodaeth am roddion a benthyciadau (sy’n bodloni’r trothwyon ar gyfer datgelu).
Ar gyfer etholiadau’r Senedd, caiff ffurflenni gwariant a chyfanswm y rhoddion a dderbynnir eu hadrodd, ar gyfer pleidiau ac ymgeiswyr, mewn fformat chwiliadwy ar-lein. Ystyrir bod sicrhau argaeledd gwybodaeth i’r cyhoedd a chwiliadwyedd ar-lein yn arfer gorau ar gyfer tryloywder. Fodd bynnag, ni chaiff manylion rhoddion islaw’r trothwy datgelu cenedlaethol eu hadrodd, a dim ond ar gais y Swyddog Canlyniadau y mae ffurflenni gwariant llawn ymgeiswyr unigol ar gael i’r cyhoedd.
Mae’r trothwyon ar gyfer adrodd am roddion i’r Comisiwn Etholiadol wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nawr dim ond rhoddion i ymgeiswyr sy’n fwy na £2,230 o un ffynhonnell sydd angen eu cofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol, a dim ond rhoddion dros £11,180 i bleidiau. Mae’r terfynau hyn (hyd yn oed cyn y cynnydd), yn ôl safonau rhyngwladol, yn eithaf uchel, sy’n golygu nad yw llawer o roddwyr a rhoddion yn cyrraedd y trothwy ar gyfer tryloywder. Y trothwy cyfartalog ar gyfer datgelu rhoddion ar draws y gwledydd sy’n aelodau o’r UE yw 2,400 Ewro. Mae dadl gref bod trothwy’r DU, yn enwedig ar ôl y cynnydd, wedi’i osod yn rhy uchel.
Fodd bynnag, mae’r math o wybodaeth sydd ar gael a hygyrchedd y data yn parhau i fod yn rhan gref o gyfundrefn cyllid gwleidyddol y DU. Un maes sy’n rhwystro tryloywder o ran rhoddion a gwariant yw’r amser rhwng etholiad a chyhoeddi gwybodaeth. Ni chafodd ffurflenni gwariant ar gyfer pleidiau a wariodd dros £250,000 yn etholiad Senedd 2021 eu cyhoeddi tan fis Chwefror y flwyddyn ganlynol. Mae’r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus wedi argymell yn y gorffennol y dylid lleihau’r amserlenni hyn fel bod y wybodaeth ar gael yn fwy prydlon.[2]
Mae llawer o wledydd wedi symud i adrodd naill ai’n gyfredol neu’n llawer cynt, ac mae datblygiadau mewn technoleg yn caniatáu symleiddio’r broses hon heb faich gweinyddol ychwanegol, gan wella tryloywder i bleidleiswyr.
Gwerth y Rhoddion
Ar hyn o bryd mae trothwy ariannol ar gyfer cofrestru bod rhodd wedi’i derbyn, ond nid oes terfyn ar faint o arian y gellir ei roi.
Byddem yn awyddus i wybod:
- Faint o ddisgresiwn ydych chi’n meddwl y dylai fod gan wleidyddion o ran faint o arian maen nhw’n ei dderbyn?
- A ydych chi’n credu y dylai fod terfyn ar y swm a roddir ar gyfer ymgyrchoedd penodol, ac os felly, beth ddylai’r terfyn hwnnw fod gan: a) unigolion; b) cwmnïau; c) elusennau; d sefydliadau eraill; neu e ar gyfer yr ymgyrch gyfan
Mae rheolau ynghylch rhoddion fel arfer yn ceisio sicrhau bod ‘maes chwarae gwastad’ i gyfranogwyr etholiadol fel bod yr etholwyr yn gallu pleidleisio dros yr ymgeiswyr a’r polisïau maen nhw am eu dewis. Gallant hefyd geisio atal gwyrdroad yn sgil ymyrraeth o dramor a sicrhau nad yw’r rhai sydd â’r pocedi dyfnaf yn gallu cael dylanwad gormodol dros ymgyrchoedd, er mwyn diogelu rhag llygredd a chynnal cystadleuaeth deg. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer ymddiriedaeth y cyhoedd yn y system.
Er bod cyfyngiadau ar wariant, nid oes cyfyngiadau ar roddion ar hyn o bryd. Mae hyn yn creu lle i fuddiannau unigol, corfforaethol neu eraill gael effaith anghymesur ar y llif ariannol i bleidiau ac ymgeiswyr. Mae cyfanswm y rhoddion gwleidyddol a maint y rhoddion wedi bod yn cynyddu. Canfu Transparency International, yn 2023, fod £56.5 miliwn o’r cyfanswm y £85 miliwn o gyfraniadau yr adroddwyd amdanynt o ffynonellau preifat y flwyddyn honno wedi dod gan un-deg-naw o roddwyr yn unig. Yn ogystal, canfu TI, ers 2001, fod bron i 1 o bob 10 punt o roddion a gofnodwyd wedi dod o ffynonellau anhysbys neu amheus.[3] Boed yn bleidiau neu’n ymgeiswyr, gall dibynnu ar nifer fach o roddion gan unigolion cyfoethog wyrdroi gwleidyddiaeth ac agor y potensial ar gyfer llygredd. Mae terfyn ar roddion nid yn unig yn well o ran atal dylanwad gormodol, ond mae hefyd yn amddiffyn pleidiau gwleidyddol a chynrychiolwyr rhag ymddygiad codi arian peryglus.
Enghraifft o Gymru’n ymwneud â rhoddion oedd y £200,000 a dderbyniodd Vaughan Gething ASC, pan oedd yn ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur Cymru. Arweiniodd hyn at ddadl sylweddol o fewn y Senedd, ac yn y pen draw, at ei ymddiswyddiad. Mae’n debygol bod hyn wedi cael effaith negyddol ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn y system gyfan.
Mae llawer o wledydd yn gosod cyfyngiadau ar roddion. Er enghraifft, mae gan Ganada derfyn o gyfanswm rhoddion o $1,750 i blaid gan unigolyn mewn blwyddyn (mae’r un terfyn yn berthnasol i gyfanswm rhoddion i ymgeiswyr mewn etholiadau ac ymgeiswyr am arweinyddiaeth).[4] Mae gan y rhan fwyaf o wledydd Gogledd, Gorllewin a De Ewrop hefyd derfynau ar roddion unigol, naill ai’n flynyddol neu ar gyfer etholiadau, (yn amrywio o 2,500 Ewro yn Iwerddon i 50,000 Ewro yn Sbaen).
Yn 2011, argymhellodd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus derfyn o £10,000 ar roddion bob blwyddyn.[5] Byddai hyn yn uchel yn ôl safonau rhyngwladol ond fe’i gwelwyd yn briodol yng nghyd-destun y DU. Gallai terfyn is fod yn briodol ar gyfer etholiadau penodol, a byddai’n synhwyrol ystyried terfynau rhoddion ochr-yn-ochr â therfynau gwariant, yn ogystal ag ystyried y cyfnod y mae’r terfyn mewn grym (boed yn flynyddol neu’n gysylltiedig â chystadleuaeth unigol) er mwyn sicrhau bod rheoliadau’n gyson â’i gilydd.
Mae cynnydd amlwg mewn rhoddion yn ystod cylchoedd etholiadol, ond deellir hefyd fod llawer o weithgarwch yn digwydd y tu allan i gyfnodau a reoleiddir, a gall ymgyrchu ddigwydd trwy gydol y flwyddyn, bob blwyddyn. Ni fyddai cyfyngu ar roddion yn ystod cyfnod a reoleiddir o reidrwydd yn atal rhoddion mwy rhag cael eu gwneud y tu allan i’r cyfnod hwnnw.
Atebolrwydd Ychwanegol
Ar hyn o bryd mae’r Senedd yn cofnodi gwybodaeth am roddion ar gofrestr buddiannau’r Aelod unigol ac mae’r wybodaeth hefyd yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Nid oes unrhyw ofyniad arall ar Aelodau i gofnodi unrhyw ryngweithio ag unigolion neu grwpiau.
- A fyddech chi’n disgwyl i bobl/unigolion sy’n rhoi rhoddion i wleidyddion ddatgan neu gofrestru gwybodaeth yn rhywle?
- A ydych chi’n credu y dylid cofnodi’r gwahanol ffyrdd, heblaw am rai ariannol, y gall Aelodau elwa (megis defnyddio adnoddau / cyfleusterau / gwasanaethau, a.y.b.)?
- A ydych chi’n credu bod angen dull ar y Senedd ar gyfer cofnodi rhyngweithiadau, heblaw rhai ariannol, gan unrhyw grŵp penodol o bobl ag Aelodau?
Ar wahân i roddion, y prif feysydd pryder yw anrhegion a lletygarwch, ariannu teithiau tramor, a sianelu arian trwy drydydd parti.
Mae Cofrestr Buddiannau Aelodau’r Senedd yn cwmpasu’r rhan fwyaf o’r categorïau o anrhegion a buddion.
Er bod teithiau tramor yn cael eu cofrestru, nid oes unrhyw gyfyngiad ar y rhai sy’n talu am y teithiau hynny, sy’n gadael y posibilrwydd y bydd gwledydd tramor yn ceisio dylanwad trwy ymweliadau y maent wedi talu amdanynt.
Yn ogystal, mae bylchau o hyd yn y fframwaith o amgylch Cymdeithasau Anghorfforedig a ffynhonnell yr arian sy’n dod trwy’r Cymdeithasau hynny. Yn yr un modd o ran rhoddion corfforaethol, mae bylchau o hyd yn y rheolau sy’n caniatáu i arian o du allan i’r DU gael ei sianelu trwy gwmnïau coeg. Yn aml, nid yw gwybod enw a chyfeiriad yr endid sy’n gwneud y rhodd yn ddigon i sicrhau bod y rhodd yn dod o ffynhonnell a ganiateir.
Fel arfer, yr ymgeisydd neu’r blaid sy’n derbyn y rhodd sy’n gyfrifol yn hytrach na’r rhoddwr, ac mae achos cryf dros gael gwiriadau adnabod-eich-rhoddwr cadarn i amddiffyn pleidiau ac ymgeiswyr, ac i endidau sy’n derbyn ac yn casglu rhoddion fel Cymdeithasau Anghorfforedig orfod gwella eu gwiriadau o ran yr hyn a ganiateir.
Y tu allan i’r rheolau ariannol, un bwlch clir yn y ffordd y cofnodir rhyngweithiadau rhwng ASCau a sefydliadau neu grwpiau ymgyrchu yw diffyg cofrestr lobïo yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid yw’r canllawiau ar lobïo a mynediad at Aelodau’r Senedd yn gynhwysfawr, gan nodi “y dylai aelodau ystyried” nifer o gamau, gan gynnwys cymryd cofnodion a nodiadau o unrhyw gyfarfod â’r rhai y maent yn eu hystyried yn lobïwyr.[6] Mae diffyg gorfodaeth o ran cadw cofnodion a chanllawiau cryf, yn peri risg o anghysondeb rhwng aelodau wrth gasglu gwybodaeth o amgylch cyfarfodydd. O ystyried nad yw’r canllawiau ychwaith yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi gwybodaeth o’r fath, mae diffyg tryloywder i’r cyhoedd nad oes ganddynt unrhyw ffordd o gael mynediad at wybodaeth am gyfarfodydd y mae eu haelodau etholedig wedi’u cymryd rhan ynddynt.
O’r herwydd, byddem yn argymell cyflwyno cofrestr lobïo cyn y seithfed Senedd. Byddai hyn yn sicrhau bod rheolau’r Senedd yn gyson â’r gofrestr sydd ar waith yn yr Alban,[7] ac ar lefel y DU.
[1] International IDEA (2022) Regulating the Business of Election Campaigns: Financial transparency in the influence ecosystem in the United Kingdom, https://www.idea.int/publications/catalogue/regulatingbusiness–election–campaigns
[2] CSPL (2021) Regulating Electoral Finance
https://assets.publishing.service.gov.uk/media/60e460b1d3bf7f56801f3bf6/CSPL_Regulating_Election_F inance_Review_Final_Web.pdf
[3] Transparency International (2024) Checks and Balances: Countering the influence of big money in politics https://www.transparency.org.uk/publications/cheques–and–balances–countering–influence–bigmoney–uk–politics
[4] Mae’r swm hwn yn cynyddu bob blwyddyn.
[5] https://www.gov.uk/government/publications/political–party–finance–ending–the–big–donor–culture
[6] https://senedd.wales/how-we-work/code-of-conduct/guidance-on-lobbying-and-access-to-members-of-the-senedd/
[7] https://www.lobbying.scot/