Mae democratiaeth yn ymwneud â grymuso dinasyddion i fod yn rhan o’u system wleidyddol ac o’r herwydd, mae ymgorffori lleisiau dinasyddion bob dydd yn y systemau hynny’n hanfodol i ddemocratiaeth sy’n gweithio. Heb hynny, rydym mewn perygl nid yn unig o gael penderfyniadau gwleidyddol nad ydynt yn cyd-fynd â’r hyn y mae’r etholwyr eu heisiau, ond hefyd ymdeimlad o ymddieithrio gan fod pobl yn teimlo nad yw eu barn yn cael ei chlywed.
Mae llywodraethiant yng Nghymru yn wynebu her fawr, lle mae gormod o bobl yn teimlo’n ddigyswllt o’r broses o wneud penderfyniadau. Os ydym am adfywio democratiaeth yng Nghymru, mae angen i ni ddechrau trafodaeth ynglŷn â sut i roi pŵer yn nwylo dinasyddion ar lefel leol.
Mae gan ddemocratiaeth gydgynghorol le sylfaenol yn hyn, ac hyd yma yng Nghymru, rydym wedi bod yn araf.
Mae cenhedloedd eraill wedi bod yn arwain ar fodelau ymgysylltu fel cynulliad y bobl a chyllidebu cyfranogol.
Er enghraifft, mae Iwerddon wedi dangos sut gellir defnyddio cynulliad y bobl i dorri rhwystrau wrth lunio polisïau ymhlith y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gyda’r refferendwm llwyddiannus ar hawliau erthylu, un o argymhellion uniongyrchol Cynulliad y Bobl Iwerddon, model hirdymor sydd wedi archwilio nifer o faterion.
Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi sefydlu eu Cynulliad y Bobl eu hunain i edrych ar faterion eang ar gyfer dyfodol yr Alban. Yn ogystal, pasiodd yr Alban ddeddfwriaeth i rymuso cymunedau lleol yn 2015. Yn ddiweddar, bu’n ymgynghori ar y Bil Democratiaeth Leol. Yn ogystal, maen nhw hefyd wedi sefydlu Cronfa Dewisiadau Cymunedol sy’n darparu cyllid i gefnogi a hyrwyddo cyllidebu cyfranogol, lle gall pobl neu sefydliadau wneud cais i’w cymuned leol am gyllid ar gyfer prosiect penodol. Mae hyn yn grymuso ac yn ymgysylltu â chymunedau lleol ac mae’n arfer sy’n cael ei ddefnyddio ledled y byd.
Mae absenoldeb y math hwn o ymgysylltiad ar raddfa eang yng Nghymru, ac eto mae angen uniongyrchol ar gyfer y mathau hyn o arferion i adeiladu cymunedau ac i ddarparu cysylltiadau mwy effeithiol rhwng pobl a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
Mae brwydr ar droed i gael gwared ar ein sefydliadau cynrychiadol. Mae’n frwydr rhwng y meddwl a’r galon, ac mae’n rhaid i ni fod yn barod – ymateb gyda mwy o ddemocratiaeth, dod â phŵer a’r broses o wneud penderfyniadau yn agosach at y cyhoedd.
Bydd yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru ystyried sut gall sefydliadu dulliau ymgysylltu blaengar i’w broses o lunio polisïau safonol a dylai ymrwymo i ymgysylltu â’r cyhoedd yn llawer mwy effeithiol.
Gofyniad Maniffesto 3: Mabwysiadu dulliau democratiaeth gydgynghorol i brosesau llunio polisïau safonol, gyda dulliau fel cyllidebu cyfranogol a chynulliad y bobl yn cael eu defnyddio’n rheolaidd i fynd i’r afael â diffyg ymgysylltu â chymunedau ac i ddatrys dadleuon gwleidyddol penodol.