Daeth newyddion gwych i bleidleiswyr allan o Bowys heddiw, gan fod y Cyngor Sir wedi pleidleisio IE i ymgynghoriad cyhoeddus ar ddileu’r system Cyntaf i’r Felin ar gyfer eu hetholiadau a chyflwyno’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy sy’n fwy teg a chymesur.
Pleidleisiodd cynghorwyr 34 o blaid ymgynghoriad a 26 yn erbyn, gyda 2 yn ymatal.
Cyngor Sir Powys yw’r cyngor cyntaf yng Nghymru i gymryd y cam hwn ers i ddeddf gael ei phasio yn 2021 a roddodd y pŵer i gynghorwyr symud i’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV). Mae’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn ffordd decach a gwell ar gyfer dewis ein cynghorwyr – sydd wedi cael ei defnyddio yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ers dros ddegawd.
Mae etholiadau lleol yng Nghymru ymhell o fod yn ddelfrydol
Yn y set ddiwethaf o etholiadau lleol yng Nghymru gwelsom dros draean o gynghorau’n cael ‘mwyafrifoedd heb eu hennill’ lle mae plaid yn dal dros 50% o’r seddi ar lai na 50% o’r bleidlais.
Cymerwch er enghraifft Gaerdydd, lle mae Llafur yn dal 70% o’r seddi gyda dim ond 47% o’r bleidlais. Neu Ynys Môn, lle mae gan Blaid Cymru 60% o’r seddi, er iddynt ond ennill 41% o’r bleidlais. Mae hyn yn gallu mynd y ffordd arall hefyd; ar draws Cymru mae pleidiau yn colli cymaint ag y maent yn ei ennill oherwydd effeithiau camarweiniol y system Cyntaf i’r Felin. Enillodd Plaid Cymru, oedd yn sefyll fel Tir Cyffredin gyda’r Gwyrddion yng Nghaerdydd, dim ond 2 o’r 79 o seddi ar y cyngor, er iddynt ennill 17% o’r bleidlais ar draws y ddinas. Mae’n dipyn o loteri etholiadol o ran pwy sy’n cael ei gynrychioli – a phwy sy’n cael gosod yr agenda yn lleol.
Ein hymgyrch dros ddiwygio etholiadol lleol yng Nghymru
Tra dwi wedi bod yn gyrru ar hyd a lled y wlad yn siarad gyda chynghorwyr, mae aelodau a chefnogwyr ERS wedi bod yn chwarae eu rhan mewn ymgyrchu i sicrhau bod pawb gael eu cynrychioli.
Mae traean o’r holl gynghorwyr yng Nghymru wedi derbyn e-bost gan rywun yn eu ward yn gofyn iddynt gefnogi’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Mae cefnogwyr ym Mhowys wedi chwarae rhan hanfodol, gan gysylltu â’u cynghorwyr yn y cyfnod cyn y bleidlais hollbwysig. Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch ddefnyddio ein teclyn i gysylltu â’ch cynghorwyr.
Hyd yn oed gyda chymaint o gyfle, roeddem yn dal yn siomedig i glywed llawer o wybodaeth gamarweiniol yn cael ei lledaenu gan bobl sydd o blaid cadw’r status quo. Dywedodd un cynghorydd hyd yn oed y byddai STV yn dod â’r traddodiad balch o gynghorwyr annibynnol i ben – rhywbeth a fyddai’n syndod i’r 152 o gynghorwyr annibynnol yn yr Alban, a etholwyd gan ddefnyddio’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy!
Beth sydd nesaf?
Yr ymgynghoriad yw’r cam cyntaf, ond i gael gwared ar y system Cyntaf i’r Felin mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf, bydd angen i ddwy ran o dair o gynghorwyr Powys gytuno ar benderfyniad cyn y 15fed Tachwedd 2024. Os ydych chi’n byw ym Mhowys, gwyliwch allan am yr ymgynghoriad.
Wrth drosglwyddo’r cyfrifoldeb am newid y system etholiadol leol i’r cynghorwyr eu hunain, a mynnu pleidlais o 2/3, mae’r rheolau hyn yn ei gwneud yn anodd creu newid. Ond mae gan Gymru hanes balch o frwydro am yr hawl i bleidleisio yn y lle cyntaf, ac mae wastad wedi gwthio i fod ar flaen y gad o ran newid democrataidd. Pam ddylem ni setlo am lai ar lefel leol?
Mae’n bryd i’n cynghorau ddal i fyny a rhoi democratiaeth leol i ni sy’n deilwng i wlad fodern, flaengar.
Ychwanegwch eich enw: Dylai pob cyngor yng Nghymru fabwysiadu system bleidleisio decach