Ddydd Iau 7fed Mai, aeth Cymru ati i bleidleisio yn etholiad y Senedd. Daeth yr etholiad hwn â newid syfrdanol i Gymru; collodd Llafur Cymru eu safle fel y blaid fwyaf yn y Senedd am y tro cyntaf erioed, a Phlaid Cymru’n llywodraethu, gyda Reform UK Cymru fel yr wrthblaid swyddogol.
Mae gan y Senedd newydd 43 ASC Plaid Cymru, 34 ASC Reform, naw ASC Llafur, saith ASC Ceidwadol, dau ASC Gwyrdd ac un Aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Pa mor effeithiol oedd y system bleidleisio newydd?
Y tu hwnt i’r penawdau, gwelsom system bleidleisio newydd yn cael ei defnyddio ar gyfer yr etholiad, gyda phob un o’r 96 Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol trwy’r system etholiadol Rhestr Gaeedig am y tro cyntaf. O dan y system hon, mae pleidiau’n llunio rhestrau o ymgeiswyr ym mhob un o’r 16 etholaeth newydd ledled Cymru. Roedd pleidleiswyr yn gallu cymeradwyo rhestr o ymgeiswyr unrhyw blaid neu bleidleisio dros ymgeisydd annibynnol.
O’i sefydlu ym 1999 tan 2021, roedd 60 o aelodau’n eistedd ym Mae Caerdydd; etholwyd y rhain gan ddefnyddio System Aelod Ychwanegol (AMS), oedd yn golygu bod 40 o seddi’n cael eu hethol gan ddefnyddio’r system y Cyntaf yn y Felin (FPTP) ac yna 20 o seddi rhestr ranbarthol yn cael eu hethol o dan Restrau Caeedig. Bwriadwyd i’r system newydd ar gyfer ethol Senedd fwy o faint fod yn un fwy cyfrannol, a rhoi mandad cyfartal i’r 96 Aelod, gan ddod â’r arfer o gael cyfuniad o ASC oedd yn cynrychioli etholaethau a rhanbarthau i ben.
I sefydlu a oedd y system hon yn fwy cyfrannol na’r un flaenorol, gellir cyfrifo sgôr, y cyfeirir ati fel sgôr DV. Yn ei hanfod, po isaf yw’r sgôr, y mwyaf cyfrannol yw’r etholiad. Ar gyfer etholiad Senedd 2026, y sgôr DV (gan ddefnyddio dull DV Loosemore-Hanby) yw 15.5, sy’n agos at y cyfartaledd ar gyfer y sgôr DV ar gyfer pleidleisiau rhestr yn etholiad diwethaf y Senedd o’i gymharu â seddi yn y Seneddau blaenorol. Mae hyn yn golygu bod y system Rhestr Gaeedig yn 2026 wedi ymddwyn yn yr un ffordd ag y mae wedi’i wneud mewn etholiadau Senedd blaenorol gan ddefnyddio’r mesur hwn.
Mae cymharu hyn ag Etholiad Cyffredinol y DU yng Nghymru yn dangos faint yn fwy cyfrannol yw’r system hon na system San Steffan. Roedd i ganlyniadau Cymru yn Etholiad Cyffredinol y DU sgôr DV o 47.4 a thros gyfnod tebyg mae iddynt gyfartaledd o 29.3.
Yn ddiddorol, mae gor-gynrychiolaeth y blaid fwyaf ar ei hisaf mewn unrhyw etholiad Senedd hyd yma (9.4 pwynt). Mae hyn yn cymharu â chyfartaledd o 13.7 pwynt ar draws y 6 etholiad cyntaf y Senedd, a dyma’r tro cyntaf i’r ffigur hwn fod o dan 10 pwynt.
Nid yw hynny’n golygu bod pawb yn hapus â’r system hon. Mae ERS bob amser wedi bod yn feirniadol o’r diffyg dewis i bleidleiswyr a’r ffaith nad yw pleidleiswyr yn gallu ethol unigolyn yn uniongyrchol o restr unrhyw blaid. System amgen, sef y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, oedd yr un a argymhellwyd gan banel o arbenigwyr a phwyllgor blaenorol y Senedd, ond ni chafodd ei rhoi ar waith ar gyfer yr etholiad hwn. Gellid defnyddio mecanwaith adolygu nawr i addasu neu newid y system Rhestr Gaeedig cyn etholiadau 2030, ond mae’n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddweud a fydd ASC yn pleidleisio i sefydlu hyn neu a oes ganddynt y mandad i gyflawni unrhyw newidiadau.
Sut mae hyn yn cymharu ag etholiadau lleol Lloegr?
O’i gymharu â rhai o’r etholiadau eraill a gynhaliwyd ddydd Iau diwethaf, roedd etholiad y Senedd yn llawer gwell o ran rheoli’r darnio rydyn ni’n ei weld ledled y DU. Gydag etholiadau lleol yn Lloegr yn cael eu cynnal o dan y system y Cyntaf i’r Felin ar yr un diwrnod, mae gennym gymhariaeth uniongyrchol o sut mae gwahanol systemau pleidleisio yn ymdrin â dymuniadau pleidleiswyr.
Cynhyrchodd etholiadau ar gyfer cynghorau yn Lloegr ddydd Iau diwethaf gyfres o ganlyniadau anghymesur. Yn Ne Swydd Gaergrawnt enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol 95.6% o seddi gyda 41.6% o’r bleidlais, tra yn Wandsworth y Ceidwadwyr a enillodd y nifer fwyaf o seddi er gwaethaf ennill llai o bleidleisiau na Llafur. Mae yna hefyd enghreifftiau; lle mae pleidiau a enillodd ganran debyg o’r bleidlais i Blaid Cymru yn etholiad y Senedd (35.4%) wedi elwa’n aruthrol o dan y system y Cyntaf i’r Felin, fel Havering lle enillodd Reform UK 70.9% o’r seddi ar 36.3% o’r bleidlais. Ar draws amryw o gynghorau, mae nifer fawr o bleidleiswyr – dros draean mewn rhai achosion – heb unrhyw gynrychiolaeth o gwbl ar ddiwedd y dydd.
O fewn y cyd-destun hwn, mae’r systemau cynrychiolaeth gyfrannol yr ydym wedi’u gweld yn cael eu defnyddio yng Nghymru a’r Alban (a ddefnyddiodd system Aelod Ychwanegol (AMS) ar gyfer yr etholiad yr wythnos diwethaf) wedi arwain at ganlyniadau llawer gwell. Er y gellid gwella system Cymru, yn enwedig o ran rhoi cysylltiad uniongyrchol i bleidleiswyr â’u cynrychiolwyr, mae wedi gallu cyflawni canlyniad llawer mwy cyfrannol na’r rhai rydyn ni wedi’u gweld yn Lloegr.
Golwg tua’r dyfodol
Er nad yw’r llwch prin wedi setlo ar etholiad y Senedd, bydd pleidleiswyr yn ôl wrth y blwch pleidleisio ymhen dim ond blwyddyn ar gyfer etholiadau awdurdodau lleol Cymru. Er ein bod wedi cael cynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer y Senedd, bydd yr etholiadau hynny’n dal i gael eu cynnal o dan y system y Cyntaf i’r Felin, ac efallai y byddant yn achosi llawer mwy o gur pen i bleidiau os gwelwn unrhyw beth tebyg i’r anghymesuredd rydym newydd ei weld yn etholiadau lleol Lloegr. Os yw pleidiau’n awyddus i osgoi dyblygu’r problemau rydyn ni wedi’u gweld yn Lloegr, yna mae’n hen bryd sicrhau bod y Cyntaf i’r Felin yn perthyn i orffennol Cymru.