Cafwyd newyddion gwych o Wynedd yr wythnos diwethaf wrth i Gyngor Gwynedd ryddhau canlyniadau eu hymgynghoriad ar a ddylid newid y system bleidleisio a ddefnyddir mewn etholiadau lleol. Nid oedd y canlyniadau hyd yn oed yn agos, gan ddangos cefnogaeth glir yng Ngwynedd i fabwysiadu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV), sef fersiwn o gynrychiolaeth gyfrannol, ar gyfer etholiadau lleol.
Ymatebodd bron i 900 o drigolion i’r ymgynghoriad. Mae hynny bron i 6 gwaith y gyfradd ar gyfer ymateb i unrhyw ymgynghoriad arall a gynhaliwyd eleni. Dywedodd 72.2% o’r rhai a ymatebodd, sy’n ganran anhygoel, eu bod o blaid ethol eu cynghorwyr gan ddefnyddio’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad dros yr haf ar ôl i gynghorwyr bleidleisio i ymgynghori â thrigolion ynghylch a ddylid gwneud y newid hwn, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Mae trigolion Gwynedd wedi cael llond bol ar y Cyntaf i’r Felin
Yn ogystal â hynny, nid oedd hyn wedi’i gyfyngu i ddemograffeg fach. STV oedd y system a ffafriwyd ym mhob grŵp oedran.
Heb os, mae hyn yn dangos bod pleidleiswyr Gwynedd wedi cael llond bol ar y Cyntaf i’r Felin ac yn awyddus i weld newid. Efallai nad yw hyn yn syndod.
Yn 2022, roedd 41% o seddi’r cyngor yn ddiwrthwynebiad yng Ngwynedd, sy’n golygu bod y cynghorwyr wedi cymryd eu seddi heb i bleidlais gael ei bwrw. Collodd 30,000 o bobl eu hawl i bleidleisio wrth i’w democratiaeth leol wywo o dan y cynllun Cyntaf i’r Felin. Roedd hynny’n fwy o seddi diwrthwynebiad nag y mae’r Alban gyfan wedi’u gweld ym mhob etholiad gyda’i gilydd ers 2007, pan newidiwyd i STV.
Gall trigolion Gwynedd weld manteision STV a dyna’r hyn maen nhw ei eisiau. Maen nhw eisiau i’w lleisiau gael eu clywed. Maent am i safbwyntiau amrywiol eu cymuned gael eu hadlewyrchu ac maent am i’w gwleidyddion gydweithio i ddatrys problemau.
Mae’n gwbl amlwg bod pleidleiswyr yng Ngwynedd eisiau’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Nawr, mater i gynghorwyr yw eu cefnogi mewn cyfarfod arbennig o’r Cyngor ddydd Iau 24ain Hydref.
Gyda’r angen i ddwy ran o dair o gynghorwyr gefnogi’r newid hwn er mwyn iddo basio, mae yna frwydr o’n blaenau. Ac eto, roedd dros ddwy ran o dair o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad o blaid y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, felly rydym yn annog cynghorwyr i ddilyn eu hesiampl a phleidleisio dros y newid hwn mewn niferoedd tebyg.
Ychwanegwch eich enw: Dylai pob cyngor yng Nghymru fabwysiadu system bleidleisio decach