Gallai’r gymuned hon fod ar fin newid y ffordd mae cymunedau yng Nghymru yn siarad am yr hinsawdd
Ymhen ychydig ddyddiau bydd Cymru’n cynnal ei Chynulliad Hinsawdd cyntaf un. Bydd y digwyddiad, ym Mlaenau Gwent, yn cynnwys 50 o breswylwyr lleol yn ymgynnull ar-lein i drafod, ystyried a gwneud argymhellion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn eu hardal leol.
Er mai dyma’r cynulliad hinsawdd cyntaf i Gymru, mae cynulliadau fel hyn yn gyffredin yn rhyngwladol gyda Chanada, Ffrainc a Gweriniaeth Iwerddon ymysg y rhestr gynyddol o wledydd sydd wedi cynnal yr ymarferion ymgynghori hyn. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd mewn Cynulliadau sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd yma yn y DU, gan ddod â phobl gyffredin ynghyd i helpu i ganfod atebion i un o argyfyngau mwyaf y byd.
Mae Cynulliad Hinsawdd yr Alban yn dilyn Cynulliad Hinsawdd y DU ar hyn o bryd, yn ogystal â llawer mwy o enghreifftiau lleol, fel Adur and Worthing Climate Assembly a Climate Change Citizens Jury Leeds, sy’n dangos gwerth cynnal gwasanaethau fel y rhain mewn ardal benodol.
Ym Mlaenau Gwent, mae’r Cynulliad Hinsawdd yn gam tuag at gynnwys pobl sy’n byw yn y gymuned yn fwy, mewn sgyrsiau am newid yn yr hinsawdd, tegwch a dyfodol eu hardal leol.
Mae’r Cynulliad yn cynnwys 50 o breswylwyr lleol a ddewiswyd ar hap ac sy’n cynrychioli’r ddemograffig. Anfonwyd 10,000 o lythyrau gwahodd ym mis Ionawr, sef traean o’r holl gartrefi yn ardal yr awdurdod lleol. O’r rhai a ymatebodd, casglwyd gwybodaeth ddemograffig gan gynnwys pethau fel rhyw, ethnigrwydd, y math o dai yr oedd pobl yn byw ynddynt a’u diddordeb mewn newid yn yr hinsawdd. Roedd hynny i gyd yn caniatáu i arbenigwyr yn Sortition Foundation ddewis cyfranogwyr sy’n cynrychioli’r gymuned leol yn fras.
Ddydd Mawrth 2 Mawrth, bydd y 50 preswylydd yma yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf i wrando ar arbenigwyr yn trafod ac yn ystyried. Byddant yn cwrdd ddwywaith eto gyda’r cynulliad, dros ddau benwythnos ym mis Mawrth, cyn gwneud argymhellion i ateb y cwestiwn:
“Beth ddylem ni ei wneud ym Mlaenau Gwent i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd mewn ffordd sy’n deg ac yn gwella safonau byw i bawb?”
Bydd yr argymhellion hyn wedyn yn cael eu hystyried gan nifer o fudiadau sy’n gweithio ym Mlaenau Gwent. Un enghraifft o hyn yw drwy gydweithrediad rhwng y pedair cymdeithas dai yn yr ardal, sy’n gweithio gyda’i gilydd ar hyn o bryd i ôl-ffitio eu stoc dai. Bydd yr argymhellion a ddaw o’r cynulliad yn cael eu bwydo’n uniongyrchol i’r gwaith hwn, a gyflwynir i brif weithredwyr a byrddau pob cymdeithas dai ganol Ebrill. Enghraifft arall yw’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lleol, sy’n cynnwys gwasanaethau cyhoeddus sy’n gweithio ym Mlaenau Gwent, fel yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol, y gwasanaethau tân ac achub a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae eu grŵp Lliniaru’r Hinsawdd wedi cael cysylltiad agos wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y cynulliad hwn, a byddant yn ystyried yr argymhellion fel rhan o’u strategaeth hinsawdd.
Yr hyn sydd eisoes yn glir am y cynulliad hinsawdd hwn yw’r cydweithio traws-sector sydd wedi deillio ohono rhwng sefydliadau angori yn yr ardal, yr awdurdod lleol, Llywodraeth Cymru a’r trydydd sector. Rydym yn amcangyfrif bod gennym ymhell dros 50 o bobl yn gwirfoddoli eu hamser i roi’r prosiect hwn ar waith, o’r rheini sy’n sefydlu’r cynulliad, y rheini sy’n helpu i gefnogi cyfranogwyr i ddefnyddio technoleg, hwyluswyr a fydd wrth law i gynorthwyo’r aelodau yn eu trafodaethau ac, wrth gwrs, nifer enfawr o siaradwyr. Bydd y rhain yn cynnwys gweinidogion y llywodraeth, academyddion, ymarferwyr a phreswylwyr yn y gymuned leol.
Wrth i sesiwn gyntaf y cynulliad fynd rhagddo ac wrth i’n 50 aelod o’r cynulliad ddod at ei gilydd am y tro cyntaf, mae’n anodd peidio â theimlo’n obeithiol y gall hyn fod yn newid sylweddol yn y ffordd rydym yn cael sgyrsiau beirniadol am newid yn yr hinsawdd yn ein cymunedau, a chynnwys y rheini sy’n byw yn yr ardal yn well.
Er mai hwn fydd Cynulliad Hinsawdd cyntaf Cymru, nid hwn fydd yr olaf.